Pleser melys yw cael cyfle i gyd-gerdded yr ardd hefo cyfeillion o gyffelyb fryd, loetran yma ac acw i rannu buddugoliaethau bychain neu i gynnal post mortem ar rhyw drallod neu’i gillydd. Rhyw rannu a derbyn cyngor, gwyntyllu, gresynu ac yn fwy na dim, dysgu.
Un o’r cyfeillion hynny oedd Lizzie. Yn wahanol iawn i ni roedd ganddi brofiad helaeth o arddio a gwybodaeth eang o blanhigion. Fel ni, aeth hithau ati i droi cae yn ardd.
Mewn dim o beth roedd ei gardd yn ffynnu, gwlâu wedi eu gosod i siapiau meddal a oedd yn llifo ac yn toddi i mewn i’w gilydd gyda llwybrau troellog yn ein tywys trwy’r ardd. Gardd wedi ei phlannu yn naturiol ac ar yr olwg gyntaf yn eithaf syml, dyna oedd y bwriad wrth gwrs, ond llaw gelfydd iawn oedd y llaw a’i chreodd.
Bywyd gwyllt a natur oedd canolbwynt yr ardd gyfareddol hon; pe bai had yn egino mewn lle llai na delfrydol athroniaeth Liz oedd ei fod wedi ennill ei le a bod ganddo hawl i ffynnu. Anaml y byddai yn prynu planhigion (oni bai o’r gornel fargeinion), yn hytrach byddai yn dibynnu ar hadau, toriadau a rhyw ambell gyfraniad gan ardd arall. Llwyddodd i frodio clytiau amrywiol o blanhigion yn gampwaith gywrain o liwiau, sawrau a gweadau.
Fel y sawl a’i chreodd ni chafodd yr ardd hon gyfle i gyrraedd ei llawn botensial ac fel y sawl a’i chreodd fe ddiflannodd yn llawer rhy fuan ond diolch byth am gael eu’nabod.
Erbyn heddiw nid oes fawr o argoel o’r hyn a fu a mae’n peri poen meddwl i mi mai’r un ffawd sydd i ardd Hafan yr Hud, felly dwi am ddefnyddio’r blog hwn i’w rhoi ar gof a chadw.
Byddwn hefyd yn falch iawn o dderbyn sylwadau, cynghorion a chwestiynau – rhyw gyd-gerdded a thrafod mewn rhithgymuned.
