Mae bywyd gwyllt yn rhan annatod o’r ardd; toes dim yn rhoi mwy o bleser na gwylio campau’r titw, ji-binc a’r deryn to.
Tan yn ddiweddar toedd dim hanes o’r Nico yng ngardd Hafan yr Hud, hynny yw tan i ni ychwanegu hadau ‘niger’ at yr arlwy arferol o hadau adar cyffredin.
O fewn dwy awr roedd teulu’r Nico yn gwledda ar yr hadau bach du.
Erbyn heddiw maent yn llawer mwy niferus ac wedi llwyr ymgartrefu.
