Eleni bum yn arbrofi nid yn unig hefo’r math o datws cynnar i’w plannu ond hefyd pryd a sut i wneud hynny.
Soniodd ffrind i mi, sy’n arbenigwr ar datws, am datan gynnar o’r enw Annabelle, cymaint y canmol fel toedd fawr o ddewis ond rhoi tro arni.
Aeth y tatws i lawr ganol mis Chwefror o dan haen o blastig (ach, ia dwi’n gwybod) ac mi wnaethom ddechrau eu codi ganol mis Mai.
Mae hi’n wir y datan gynnar orau i mi rioed ei blasu, mae hi’n felys a rhyw flas menyn arni. Hyfryd!