Dwi wrth fy modd hefo ffa, chefais fawr o hwyl arnynt llynedd ond eleni dwi wedi eu blaenoriaethu a dwi’n benderfynol o gael cnwd gwerth chweil.
Maent wedi derbyn y gofal gora, dyfrio, bwydo a chwynnu cyson rhwng eu traed; gwasanaeth pum seren. Fe’u dechreuwyd mewn modwlau yn y ty gwydr, yna i mewn i’r fframiau cyn eu plannu allan o dan blastig ddiwedd mis Chwefror.
Erbyn mis Mehefin roeddynt yn ffynnu ac yn eu blodau. Mi wnesh i ystyried eu bonynnu ond i be? Fel arfer tydi’r gwyntoedd cryfion ddim yn ein cyrraedd tan mis Gorffennaf ac mi roedd y planhigion yn rhai cryf.
Dychmygwch felly fy siom pan gyrhaeddodd Hector a’i fryd ar ddifetha a chwalu’r ffa.

Credwch fi mi fydda i yn bonynnu unrhyw beth sy’n aros yn llonydd ddigon hir o hyn ymlaen!