‘Dyfod pan ddêl y gwcw, myned pan êl y maent, na nid Clychau’r Gog ond y Merllys, llysieuyn tymhorol sy’n eitha drud i’w brynu ac felly yn werth yr ymdrech o’i dyfu. Hynny yw, wrth gwrs os ‘dach chi’n hoff ohono.
Mae gen i wely ohonynt yn barod, siwr ei fod tua pum mlwydd oed erbyn hyn, ond gan i mi fod yn farus, ac yn erbyn pob cyngor, wedi eu torri (a’u bwyta) yn y flwyddyn gyntaf tydyn nhw ddim wedi ffynnu cystal â’r disgwyl.
Llynedd felly euthum ati i baratoi gwely newydd. Mae Merllys angen tir sy’n draenio’n dda, nid hawdd pan mae’r pridd yn fwy o glai na dim byd arall.
Y cam cyntaf felly oedd rhannu’r gwely i 4 a tyllu i lawr i ddwy droedfedd.
Yna rhoi haen o oddeutu 5 modfedd o raean ar y gwaelod, ychwanegu tail pydredig a mwy o raean at y pridd ac yna llenwi’r twll gyda’r gymysgfa. Ailadrodd 3 gwaith gyda’r tri darn arall o’r gwely.
Defnyddio llinyn wedyn i sicrhau rhychau unionsyth. Agor rhych o rhyw droedfedd o hyd, dyfnder o 6 modfedd ac yna codi crib yn ei chanol. Gosod coron y merllys ar y grib gyda’ r gwreiddiau yn gorwedd pob ochr i’r grib ac yna eu gorchuddio hefo 3 modfedd o bridd.
Sicrhau wedyn bod rhyw 2 droedfedd o ofod rhwng pob planhigyn.
Blwyddyn yn ddiweddarach, dyma nhw. Dwi ddim am eu cyffwrdd am o leiaf blwyddyn arall.