Mi fydda i yn trio pobi o leiaf un dorth surdoes yr wythnos. Mwy nag un ac mi fydda’n rhaid i mi brynu dillad newydd.
Mae llwyddiant bara surdoes yn dibynnu ar gryfder y taniwr. Mae fy un i tua phum mlwydd oed ac yn fywiog ond mi gymrodd gryn amser iddo gryfhau’n ddigonol. Yn ôl pob golwg mae’n draddodiad i enwi eich taniwr ac felly ganwyd Ffred.
I ddechrau taniwr rhowch 75g o flawd plaen neu flawd bara mewn potyn ac ychwanegu 75ml o ddŵr a’i gymysgu yn iawn. Disgwyl 24 awr ac yna ychwanegu 75g of flawd a 75ml at y gymysgfa. Ar y 3ydd dydd taflwch hanner y gymysgfa ac ychwanegwch y blawd a’r dwr a’u cymysgu. Dilynwch yr un camau am 5 niwrnod arall.
Erbyn hynny mi ddyla’r taniwr fod yn ddigon bywiog ac yn barod i greu bara. Unwaith mae’r taniwr yn ddigon cryf gallwch ei gadw yn yr oergell a’i fwydo unwaith yr wythnos.