
Fel rheol, mae oddeutu 10 pâr yn nythu ym mrig to Hafan yr Hud ac maent yn cyrraedd ganol mis Ebrill, y cynhara hyd yn hyn yw 14eg Ebrill. Gallwch ddychmygu ein siom pan 5 wythnos yn ddiweddarach nag arfer cyrhaeddodd dau bâr yn unig.

Ymddengys mai dyma’r darlun ar draws Cymru. Yn sicr tydi stormydd mawr y Gwanwyn ddim wedi helpu pethau.

Dwi wrth fy modd yn eu gwylio yn gwibio i mewn ac allan o’r nyth, eu hedfan meistrolgar a’u campau cywrain.

Dwi’n hoff iawn hefyd o wrando ar eu trydar, mi fasach chi’n taeru eu bod yn sgwrsio gyda’i gilydd o nyth i nyth.