Hanes y creu
Dechrau arni yn 2009. Cychwyn drwy gael gwared o’r chwyn a llawer i lond berfa o gerrig mawr a mân, yna ychwanegu 10 tunnell o dywod cras at y clai a’r un faint eto o dail pydredig.

Wedi’r cynllunio, gosod y strwythur, llwybr yng nghefn yr ardd a 3 phormium tenax (Llin Seland Newydd) wedi eu gosod mewn triongl.

Dechrau ar y plannu gan ganolbwyntio ar blanhigion lluosflwydd a bylbiau ac erbyn 2010 mae petha’n dechra siapio. Dwi wedi defnyddio planhigion ifanc sy’n mynd i gymryd ‘chydig o flynyddoedd i aeddfedu ac roedd rhaid cofio rhoi digon o le iddynt dyfu. Diwedd y gân yw’r geiniog!

2011, llwybr a’r lawnt wedi eu gosod a’r ardd wedi ei gorchuddio gyda rhisgl coed i gadw’r lleithder i mewn a’r chwyn allan.

2012 Gwrych Bocs i mewn.
Gwanwyn 2013 – dipyn o liw o’r diwedd.
Haf 2015
Haf 2016