Tros y bont i’r darn mwyaf cynhyrchiol.

Toes dim gwadu nad ydw i wedi bod yn dyfrio yn wythnosol, gormod i’w golli fel arall a mae’r casgenni dŵr yn hesb ers wythnosau.

Betys, rwdins ffenigl a ffa. Er gwaethaf ymdrechion gwyntoedd cryfion y Gwanwyn da ni wedi cael cnwd ardderchog of bys a ffa.

Tydi’r mefys heb fod cystal eleni, hei ho fedra ni ddim cael bob dim.

Llain y moron ydi hwn, hyd yn hyn rydym wedi llwyddo cadw’r pry bach allan.

Y feithrinfa a’r popty pizza. Fel y gwelwch mae ail-gylchu ar y buniau ail-gylchu!!