I mi dyma un o wyrthiau’r gaeaf. Pan mae hi dywyllaf a’r tywydd ar ei waethaf, pryd mae gobaith ar drai fe ymddengys y Lili Wen Fach. Fedrai ddim peidio gwenu o’i gweld ac o wenu mae’r galon yn codi yn gwbl reddfol.
Toes dim carped o eirlysiau i’w gweld yma ond yn hytrach rhyw glwstwr fan hyn a fan draw, ond pwy ŵyr sut fydd hi mewn can mlynedd! Sydd ddim ond rhaid ymweld ag hen eglwysi a thai hynafol i brofi golygfeydd gwefreiddiol o syml lle mae’r lawntiau/mynwentydd dan eu sang hefo’r blodyn bach. Digon o dystiolaeth ddwedwn i o’i allu i luosi, hynny yw os ydio’n hoff o’i le.
