Yn wahanol i weddill o drigolion Hafan yr Hud dwi wrth fy modd hefo betys, ond efallai nad ydi hynny yn ddigon o reswm i mi dyfu digon ohonynt i fwydo pob aelwyd ar Ynys Môn.  Gellir defnyddio’r llysieuyn hwn mewn nifer o wahanol ffyrdd, mae yr un mor flasus wedi ei ferwi, ei rostio neu ei biclo.

Eleni mi ffynnodd y betys a toes dim dwywaith nad oedd gennym ormodedd ohonynt, cymaint felly fel nad oeddwn i am unwaith yn edrych ymlaen at blatiad arall o fetys.  Yn ffodus cofiais bod gennyf ryset ar gyfer siytni a diolch byth roedd yn ddull effeithiol o ddefnyddio’r holl fetys.  Er mawr syndod bu i bawb ei fwynhau ac fe ddiflanodd y llwyth cyntaf yn gyflym iawn.

Yr wythnos hon bu i mi goginio’r trydydd llwyth o siytni ac rwy’n falch iawn o gael y cyfle i gefnogi Achub Draenogiaid Ynys Môn drwy gyfrannu’r siytni er mwyn codi arian tuag at yr achos clodwiw hwn.

Rysáit

English