Yng ngenau’r sach mae cynilo, a lle medra i, dwi’n ceisio arbed gor-wario ar yr ardd, (anodd chi, gan fy mod yn cael fy nghyfareddu gan rhyw blanhigyn neu’i gilydd yn llawer rhy aml).  Ta waeth bu i ni gasglu mwy o hadau o’r ardd nag erioed yn ystod Haf 2018.  Gyda’r pys a ffa fe adawais i’r masglau sychu ar ar y goesyn ac yna darfod sychu’r hadau yn y tŷ gwydr.  Eu cadw wedyn mewn lle sych sydd allan o lygaid yr haul.

hadauOddeutu 6 wythnos yn ôl bu i mi hadu’r ffa a’r pys mewn modwlau yn y  gobaith o fedru cynaeafu y cnwd cyntaf ddechrau mis Mai.  Ymhen pythefnos roeddynt wedi egino, pythefnos arall yn y tŷ gwydr ac roeddynt wedi datblygu yn blanhigion iach a chryf, felly allan â nhw i’w gwydnu am rhyw ddeng niwrnod yn y fframiau cynefino.

IMG_1222

Er gwaetha rhagolygon y tywydd roedd hi’n braf bnawn Sadwrn a bron ar fympwy penderfynais eu plannu allan yn y gwlau (i ddeud y gwir roeddwn angen eu lle).   Dwi’n gosod pys a ffa mewn patrwm igam ogan, pys rhyw 6 modfedd o’i gilydd a dwi’n gadael tua 9 modfedd rhwng pob planigyn ffa. Pan ddechreuais ar y gwaith roedd yr haul allan ond hanner ffordd drwy’r fenter newidiodd y tywydd ac erbyn y planhigyn olaf roedd cenllysg yn troi yn eirlaw.  Dyna be ydi lwc mwnci!

IMG_1226ENGLISH