Toes dim llawer ers i mi ddechrau arbrofi hefo blawd rhyg, roeddwn dan gamargraff ac wedi fy llwyr argyhoeddi y byddai surdoes rhyg yn drwm a di-flas. Ond i’r gwrthwyneb, mae’r bara yn flasus ac yn llawn cymhlethdod sy’n ddiddorol iawn i flasbwyntiau’r geg.
Dyma’r rysáit sydd wedi gweithio i mi ac mae ar gyfer un dorth maint canolog.
Cynhwysion
- 270 gram o’r taniwr
- 255 ml o ddŵr (os yn bosib wedi ei ffiltro, fel arall gadewch i ddŵr tap sefyll dros nos cyn ei ddefnyddio. Mae hynny yn cael gwared o’r fflworid a’r clorin sydd yn gallu atal y taniwr rhag gwneud ei waith)
- 420 gram blawd rhyg
- 100 gram o flawd bara gwyn neu blawd spelt, (mae blawd gwyn yn helpu i wneud y bara yn ‘sgafnach)
- 13 gram o halen môr
Dull
- Arllwys y taniwr i mewn i bowlen fawr
- Ychwanegu’r dŵr
- Ychwanegu’r blawd a’i gymysgu yn dda
- Gadael i sefyll am rhyw awr er mwyn i’r blawd amsugno’r dŵr (gorchuddiwch hefo lliain neu haenen lynu)
- Tynnwch y toes allan o’r bowlen (os da ‘chi’n meddwl bod y toes yn rhy wlyb ychwanegwch ychydig o flawd rŵan)
- Rhowch ychydig o olew yn y bowlen er mwyn sicrhau na wnaiff y toes lynu wrth toes godi am y tro cyntaf.
- Tylinwch y toes am rhyw ddeng munud neu tan mae’r toes yn hydwyth ac yn sboncio’n ôl wedi i chi ei brocio hefo bys. Yn ystod y cam hwn mi fydda i yn ychwanegu’r halen drwy ei dylino i mewn i’r toes.
- Dychwelwch y toes i’r bowlen i godi, gorchuddiwch gyda lliain neu haenen lynu am rhyw 4 awr neu tan mae wedi dyblu mewn maint.
- Rhowch ddwrn i’r toes er mwyn ei waredu o aer ac yna siapiwch o. Mae gennych ddau ddewis rŵan, ei roi mewn tun bara neu ei roi mewn basged godi (Banneton) i’w godi am yr ail waith. Os nad oes gennych dun neu fasged godi fe allwch ddefnyddio powlen Pyrex drwy roi sgwâr o bapur pobi ar waelod y bowlen, yna ychwanegu blawd i arbed i’r toes lynu cyn rhoi’r toes i mewn ynddi (yr ochr gyda’r asiad ar ei waered . Gorchuddiwch gyda lliain llaith neu haenen lynu wedi ei iro tan mae wedi dyblu mewn maint unwaith eto. Fel rheol mi fydda i yn ei adael i godi dros nos.
- Os da chi’n defnyddio basged godi neu bowlen bydd gofyn i chi droi’r toes allan ar lechen neu ddalen bobi. Defnyddiwch lafn llyfn i wneud 3 neu 4 toriad dwfn ar wyneb y toes, mae hyn yn mynd i helpu’r dorth i godi yn wastad.
- Mi ddyla’r pobty fod ar wres uchel oddeutu 200 i 230c. Rhowch dun yn llawn dŵr berwedig yng ngwaelod y popty, mae hyn yn arafu broses o ffurfio’r crystyn ac yn rhoi cyfle i’r bara godi yn llawn. Efallai y bydd angen i chi roi cap o ffoil ar ben y dorth i’w chadw hi rhag crasu’n ormodol.
Edrych yn flasus iawn x
HoffiHoffi
Diolch Beth
HoffiHoffi