Mae’r Gwyn Mawr a’r Gwyn Bach yn löynnod cyfarwydd iawn i drigolion Hafan yr Hud ac mae’n frwydr barhaus i rwystro eu hepil rhag cymryd mwy na’u siar o’r letys a’r bresych.  Yn ystod mis Awst roedd cannoedd o’r Fantell Dramor yn ymhél ar y lafant, ac roedd rhaid cerdded drwy gymylau ohonynt er mwyn cael at ddrws y tŷ, profiad gwirioneddol hyfryd.  Am y tro cynaf eleni gwelwyd y Glesyn Cyffredin, gobeithio rwan y bydd yn ymwelydd mwy cyson.  Glöynnod eraill i ni weld dipyn ohonynt yw y Trilliw Bach, Y Fantell Goch, Y Fantell Garpiog, Y Fantell Paun ac un ai’r Gweirlöyn y Ddôl neu’r Gweirlöyn bach y waun.  Teimlo’n ffodus iawn!

English