Dwi’n cael fy synnu yn gan y boddhad â ddaw yn sgil y pethau bach syml. Toes dim dwywaith nad oes lle i brofiadau mawreddog mewn bywyd, wedi’r cyfan da’ni gyd yn haeddu ychydig o faldod. Rhan amlaf, mae rhagbaratoi a threfnu trwyadl yn rhan annatod o’r achlysuron hynny ac fe geir pleser yn y disgwyl yn ogystal ag yn y profiad ei hun. Llawenydd pur wahanol felly ydi dŵad ar draws gwyrth fach annisgwyl sy’n rhoi gwen ar wyneb gyda gwres y mwynhad yn lledaenu’r trwy’r corff fel haul y bore ar lawnt farugog.

Felly hefyd yn yr ardd, mae hen ddisgwyl pob Gwanwyn a Haf i weld ffrwyth llafur y cynllunio, y paratoi a’r plannu i ymddangos. Weithiau mae’r darlun gorffenedig yn gopi cyflawn o’r un dychmygol, dro arall mae’n wahanol ond effeithiol ac ambell dro tydio ddim byd tebyg i’r disgwyl a bydd gorfod ei oddef yn ddistaw neu drio ei werthfawrogi o leiaf tan ddyfodiad yr Hydref.
Wedyn daw’r trysorau bach anrhagweledig. Yr hadau â ddisgynnodd (yn ddamweiniol) i’r llaw, yn ystod ymweliad â gardd adnabyddus, yn egino a ffynnu; enghreifftiau o hynny yw Troed yr Ehedydd a Melyn yr Hwyr. Y planhigion sy’n hadu eu hunain heb gymryd unrhyw sylw o’r cynllunio blynyddol ond er hynny yn ychwanegiadau perffaith i ganfas yr ardd. Y golygfeydd annisgwyl o amgylch yr ardd sydd yn newid bron yn wythnosol wrth i’r gwahanol blanhigion ddarfod a ffynnu. Y blodau, y llwyni a’r coed a fu’n anrhegion gan deulu a chyfeillion (boed yn doriadau, hadau neu’n blanhigion ffyniannus) sy’n sbarduno atgofion melys o’r pwysigion caredig hynny.
