Yn fuan yn y broses o greu gardd daeth yn amlwg bod yn rhaid gwneud rhywbeth i’w gwarchod rhag gwyntoedd môr Iwerddon. Efallai, dylai’r holl dyrbinau gwynt sydd wedi eu lleoli yn yr ardal fod wedi rhoi rhyw awgrym i ni o fawredd y gwyntoedd, ond y tro cyntaf i mi eu profi fe’m syfrdanwyd gan eu cryfder ac roedd gweld bwcedi, potiau blodau a chadeiriau plastig yn hedfan o un rhan o’r ardd i ran arall, fel eu bod yn rhan o ddawns erchyll, yn brofiad hunllefus. Daethom i’r casgliad na fyddai wal na ffens yn addas o ran cost, cryfder, naws nag o ran ein nod i ddenu bywyd gwyllt. Gwrychoedd amdani felly.
Ond be i blannu? Rydym yn garddio mewn clai ac er i ni ffafrio gwrych Ffawydden daethom i’r casgliad mai’r pren gorau i’w ddefnyddio fyddai Oestrwydden. Un o’r coed cynhenid caletaf ac yn wanhaol i’r Ffawydden mae yn ffynnu mewn tir cleiog ac yn debyg i’r Ffawydden mae yn cadw ei dail ymhell wedi’r crino. Yn ffodus iawn derbyniom gyflawniad digonol o egingoed gan gwmni lleol.
Er mwyn lleoli’r gwrychoedd yn y mannau mwyaf manteisiol roedd yn rhaid ystyried cyfeiriad y prifwynt, sef o’r De Orllewin, ac hefyd, wrth gwrs, dyluniad yr ardd. Mynd ati wedyn i blannu 400 o goed a chreu 5 o wrychoedd, sydd erbyn hyn yn asgwrn cefn yr ardd.
3 blynedd yn ddiweddarach roedd uchder y perthi yn 4 troedfedd ac roedd y canghennau yn dechrau cyffwrdd a’u gilydd. Gan nad oeddwn yn gwybod gwell fy mwriad oedd gadael iddynt dyfu hyd nes iddynt gyrraedd uchder o 6 troedfedd ac yna eu tocio. Diolch byth fe’m darbwyllwyd gan ffrind mwy gwybodus ac fe’m cynghorwyd i’w torri a’u twtio. Da o beth hefyd gan fod hynny wedi sicrhau siâp y gwrychoedd a thyfiant cryf. Erbyn 2019 maent wedi cyrraedd oddeutu 12 troedfedd o uchder ac yn flynyddol mae gofyn eu torri nôl lawr i 10 troedfedd. Yn wahanol iawn i’r mwyafrif o’r boblogaeth, dybiwn i, dwi ddim yn edrych ymlaen at benwythnos gwyl y banc mis Awst gan fy mod yn gwybod mai’r prif berwyl dros y Sul fydd tocio gwrychoedd. I mi dyma’r dasg anoddaf yn yr ardd. Eleni mae hi ychydig yn haws gan ein bod wedi buddsoddi mewn ysgol bwrpasol gan gwmni o’r enw Niwaki.
Er mai’r Oestrwydden yw asgwrn cefn yr ardd mae yma hefyd wrychoedd Ffawydden, Ywen a Bocs ac mae’n llawer haws cadw trefn arnyn nhw.

‘Mond 4 arall i fynd!

3 arall i fynd, diolch i Neal ac Eddie.