Tywydd sych cynta’r flwyddyn a dwi wedi cael modd i fyw o gael bod allan yn yr ardd eto. Wrth gwrs mae hi’n dal yn wlyb dan draed ac o roi fforch yn y ddaear mae dŵr yn tueddu i gronni, felly cyn belled â sy’n bosib dwi’n cadw oddi ar y pridd rhag ofn i mi gywasgu’r clai.
Gyda’r golau cynta agorais y llenni i olygfa a ymddangosai fel ei bod wedi ei thrawsblannu o un o straeon Hamlyn, roedd haen dew o farrug yn addurno’r ardd ac yn rhoi rhyw sglein arallfydol iddi. Gyda llaw, er gwaetha’r haul a’r awyr las roedd hi’n ganol pnawn arni’n dadmer yn llawn.
Gwn bod y Gaeaf hyd yn hyn wedi bod yn un mwyn, oni bai am yr holl wynt a’r glaw, er hynny fe’m synnwyd gan y nifer o blanhigion sy’n dal yn eu blodau, yn enwedig y rhosod a’r penstemon.
Dyma’r mis pryd byddaf yn cynllunio am weddill y flwyddyn. Cerdded o amgylch yr ardd yn rhestru’r holl dasgau sydd angen eu cwblhau. Mae’r rhestr yn un faith ac yn ddigon i esgor ar banig; dwi eisoes wedi dysgu i beidio ag edrych ar y llun llawn ond yn hytrach i ganolbwyntio ar ddarnau ar y tro ac felly osgoi cael fy llethu gan faint y fenter. Gwers wedi ei dysgu drwy arddio ond wedi talu ar ei chanfed yn fy mywyd gwaith ac yn fy mywyd bob dydd.
Tasg cyntaf y diwrnod oedd torri 4 coeden ffrwythau, un gellyg, un afal a dwy goeden geirios, i gyd wedi dal rhyw haint neu’i gilydd ac wedi ymwrthod â’r gofal a roddwyd iddynt, felly i lawr â nhw. Mae gen i barchus ofn i’r llif gadwyn a fydda i ddim yn ei defnyddio ar chwarae bach. Lawr hefyd â’r coed Bedw, dwi’n gobeithio y daw mwy o bren defnyddiol i’m gafael drwy’r prysgoedio. Roedd hefyd angen tocio’r ddwy Sycamorwydden sydd yn tyfu ar gyrion yr ardd a sy’n mynnu crymu eu canghennau dros y sied a’r ardd wen. Wedi’r torri, llifio canghennau mawr yn goed tân, cadw’r canghennau llai ar gyfer eu plethu yn rhyw ystum o gawell i gadw’r planhigion rhag disgyn ac yna taflu’r gweddill ar y mudyn. Mwy am y mudyn eto…..