Stido bwrw drwy’r bore a dim gobaith mynd i’r ardd, felly dyma benderfynu gwneud marmaled.

Da ni’n hoff o ddefnyddio tri ffrwyth sef oren, leim a lemon ac er mawr siom i mam da ni wrth ein boddau hefo darnau tew o groen.

IMG_1544
Cynhwysion – 1.5 kg o ffrwythau, 2 litr o ddwr, a 3 kg o siwgr.

Y cam cyntaf yw paratoi’r ffrwythau trwy dynnu’r sudd,  crafu’r mwydion allan gyda llwy ac yna torri’r croen yn stribedi.

Mae’n werth buddsoddi mewn sosban bwrpasol os da’chi fel ni yn gwneud jam neu farmalêd yn aml.  Arllwys 2 litr o ddŵr ar ben y croen a’r sudd ac yna ei adael i fud ferwi am ddwy awr hyd bydd y croen yn feddal.

R’ôl dwyawr fe welwch bod dipyn o’r dŵr wedi anweddu.  Tynnu oddi ar y gwres a’i adael am 5 munud yna ychwanegu’r siwgr, ei gymysgu yn dda ac yn ôl ar y gwres i ferwi am 15 munud.

Rhowch rhyw lwyed o’r gymysgedd ar soser neu blat fach a’i gosod yn yr oergell am dri munud.  Yna tynnwch eich bys ar draws y gymysgedd, os ydio’n crychu a chroeni yna mae’r marmaled yn bownd o setio.

Ei adael am ryw 15 munud cyn ei arllwys i’r potiau, mae hyn yn arbed i’r croen godi i dop y potyn.

English