Cyn i’r gwrychoedd aeddfedu yn geidwadwyr cadarn i’r ardd fy nghas berwyl oedd, nid tocio’r gwrych fel sy’n wir heddiw ond yn hytrach, rhoi troiad ar y mudyn. Dwi ofn llygod mawr, rhowch o fel hyn, mi fyddai’n well gen i eistedd yng nghadair y deintydd am oriau na taro llygaid ar yr anghenfil hwn. Dwi’n hollol arghoeddiedig o roi’r fforch yn y mudyn y bydd llygoden fawr fwya’r byd yn llamu allan ohono a suddo’r dannedd butraf a miniogaf i mewn i’m gwddf. Wrth gwrs, tydi hyn ddim wedi digwydd …. eto. Er hynny mae’n rhaid i mi dreulio ychydig funudau yn ymbaratoi cyn mentro at y mudyn.
Mae wedi cymryd blynyddoedd i mi sylweddoli pwysigrwydd y mudyn i’r ardd. Mae’r manteision o gynnal toman o’r fath yn ddibendraw, mae’n rhoi modd i ni drin gwastraff garddio ac ar ddiwedd y broses man gennym ddefnydd organig i chwalu dros yr ardd a gwella ansawdd y pridd…… yn RHAD AC AM DDIM.

Cyfres o dri bun compost plastig oedd mudyn cyntaf Hafan yr Hud, pob un yn cynnwys deunydd pydredig o wahanol aeddfedrwydd ac ansawdd. Lleolwyd y buniau bryd hynny tu ôl i’r sied ac felly tu hwnt i gyffyrddiad yr haul.
Digon araf oedd y mudyn i bydru’n ddigonol ac i ni fedru defnyddio’r deunydd organig ar y tir; ar gyfartaledd rhwng 2 a 3 blynedd. Pery’r dasg o droi’r mudyn i fod yn un heriol, nid yn unig roedd fy nerfau ar chwal ond roedd y profiad yn un hunllefus i’r synhwyrau gan fod rhaid ymdopi â’r drewdod a’r llysnafedd. Ni fu i mi ystyried bod rhywbeth o’i le ac wrth gwrs roeddwn yn hollol anwybodus o’r gwyddor o gynhyrchu copost yn llwyddiannus. Nid oes paradwys fel paradwys ffŵl.
Gall mudyn llwyddiannus gyrraedd gwres o 60°C. Cynhyrchir y gwres wrth i facteria dorri’r deunydd llysieuol i lawr. I sicrhau’r amodau gorau posib a galluogi’r bacteria i weithio yn effeithiol mae’n rhaid wrth 4 elfen sef deunydd gwyrdd, deunydd brown, lleithder ac ocsigen. Mae deunydd gwyrdd yn llawn nitrogen ac yn cynnwys toriadau gwair, gwastraff llysiau, ffrwythau a phlanhigion ac mae defnydd brown sy’n llawn carbon yn cynnwys brigau, dail crin, cerdyn a phapur. Dylir anelu am gymhareb o oddeutu 25 neu 30 o nitrogen at 1 o garbon ac wrth gwrs gellir cael ocsigen i mewn i’r doman drwy ei throi yn rheolaidd.
Mae gen i ofn mai hap a damwain yw llwyddiant y mudyn yn Hafan yr Hud o hyd ond erbyn hyn ceir mwy o lwyddiannau na methiannau. Er fy mod yn fwy ymwybodol o sut i gynnal mudyn llwyddiannus, rhyngddoch chi a fi, dau bryniant craff sef “Hotbin“ ar gyfer trin gwastraff y gegin a malwr coed petrol sy’n bennaf gyfrifol am y llwyddiant. Mwy am rhain eto ….