Da’chi ‘rioed wedi sylwi sut mae arogl yn gallu eich trawsgludo bron yn ddiarwybod yn ôl i’r gorffennol, i ryw sefyllfa neilltuol, at berson arbennig neu hyd yn oed yn eich gorfodi i ail  ymweld â phrofiad anghyfforddus y bydda’n well gennych ei anghofio? Mae sawr unigryw Jayes Fluid yn tueddu i fy atgoffa o ddraeniau rhwym a llygod mawr, felly am flynyddoedd dwi wedi ei osgoi. 

Hyd heddiw tydw i ddim yn cofio ei brynu, felly damwain bur oedd i mi ei weld yng nghwpwrdd y gegin wrth chwilio am lanedydd dodrefn gardd.  Yn absenoldeb y glanedydd dyma benderfynu rhoi cyfle i beth oedd yn fy marn i yn eilydd gwael i’r hyn yr oeddwn yn chwilio amdano. Ta waeth bu i mi ei gymysgu hefo dŵr cynnes ac wedyn dyna ddefnyddio clwtyn weiar i ymosod ar flynyddoedd o fudreddi a thyfiant oedd wedi ymgartrefu ar gadair a drigai ym mhen pella’r ardd.  Mewn ennyd roedd y gwahaniaeth yn amlwg a fedrwn i ddim credu’r trawsnewid, roedd y pren yn lân ac fel newydd. Ers hynny mae wastad Jayes Fluid i’w gael yng nghwpwrdd y gegin.  

Eleni dwi am roi tro ar lanhau’r llwyfan bren sydd o flaen y tŷ.  Rhof wybod i chi sut hwyl y caf arni.

ENGLISH