Tydi’r mudyn ddim yn creu digon o gompost ar gyfer yr ardd ac yn flynyddol mae’n rhaid i ni ychwanegu compost masnachol at yr arlwy.  Mae gen i ddipyn o  obsesiwn ynglŷn â’r mudyn ac mae’n bosib y caiff unrhyw beth (neu un), sy’n sefyll yn llonydd yn rhy hir yn yr ardd, wahoddiad i ymuno â’r domen.

Y Bwystfil
Y Bwystfil/The Beast

Obsesiwn, efallai, ond yn sicr nid un dwt a thaclus.  Dros y blynyddoedd dwi wedi dod i’r casgliad bod tomen fawr yn llawer may effeithlon nac un fach ac o’r herwydd fe ddisodliwyd y biniau compost plastig gan y domen flêr bresennol. Rhyw ddwywaith y flwyddyn, fel rheol pan mae’r esgusodion yn gwanhau, af ati i ddofi’r domen, golyga hyn ddefnyddio hen beiriant torri gwair a’r ‘Bwysfil’ i falu’r cynnwys yn fân.

Unwaith bo’r deunydd wedi ei falu mae’n cael ei adael mewn bagiau tunnell i aeddfedu.  Er mwyn ei fywiogi a sicrhau nad ydi’n troi yn anaerobig mae’n cael ei droi yn gyson.  Fel rheol rydym yn cynhyrchu oddeutu 4 bag tunnell o gompost yn flynyddol.

Dwi’n ystyried ymuno â’r Cynllun Gerddi Cenedlaethol gyda golwg o agor yr ardd i ymwelwyr am ddau ddiwrnod yn 2021. Felly, er ei ddefnyddioldeb bydd yn rhaid ffarwelio â’r domen flêr. Fel nifer ohonoch dwi wedi cael mwy o amser i mi fy hun yn ddiweddar, felly aethum ati i greu buniau compost pren drwy ailgylchu ffens o ardd fy mam. Bydd hyn yn hwyluso’r newid o domen fawr i un llai.  Sicr bydd yn daclusach ond a fydd yn gweithio?  Rhof wybod i chi yn y man!

English