Pwy fydda wedi darogan mis Ebrill mor sych? Ers dechrau garddio tydwi i ddim yn cofio gorfod dyfrio mor aml ac mor fuan yn y tymor
Yn bwysicach efallai, pwy fydda wedi rhagweld y byddai’r argyfwng corona wedi cantiatáu llawer mwy o amser yn yr ardd? Profiad chwerw felys am wn i.
Yn bennaf, oherwydd y tywydd mae’r ardd lysiau i weld yn ffynnu; debyg iawn bod y mwytho a’r gofal ychwanegol yn deud arni hefyd. O fedru osgoi unrhyw drychineb neu dywydd garw, mae gobaith dechrau codi tatws cynnar cyn diwedd mis Mai. Cawn weld a byddaf yn siwr o roi gwybod i chi.
Rhyfeddod annisgwyl arall ydi bod yr ardd wen yn wyn. Fyddwn i ddim yn mynd mor bell a chyfaddef i ni gam enwi’r llain hon o’r ardd ond tydi’r gwyn ddim yn gyson amlwg gydol y flwyddyn.