Da’ni wedi bod yn cynaeafu tatws newydd a merllys ers yr wythnos olaf ym mis Ebrill. Dyna fynd ati i godi’r cnwd cyntaf o datws (Annabelle, wrth gwrs) mwy mewn gobaith na dim arall ar 26ain o Ebrill. Er mawr syndod roeddan nhw’n barod i’w codi ac yn hynod flasus. Torrais y merllys cyntaf yn gynharach yn yr un wythnos ac rydym wedi bod yn gloddesta arnynt ers hynny. Mae un sgîleffaith anffodus yn deillio o’r holl wledda ar ferllys, mae pi pi rhywun yn drewi’n fwy na’r arfer.
Tydi’r llwyfan bren tu allan i’r tŷ ddim wedi edrych cystal â hyn ers ei gosod ac mae’r diolch penna am hynny i’r Jays Fluid, ’Ronseal Decking Oil’ a llond berfa o eli penelin. Da o beth yw hynny gan ein bod wedi bod yn treulio lot o amser arni’n ddiweddar.
Cymysglyd yw canlyniadau’r hadau newydd wedi bod. O’r 8 had tomato (Y Ddraig Goch), 3 yn unig sydd wedi egino er hynny mae bron pob un o hadau’r Crimson Crush wedi llwyddo. Siomedig iawn oedd hadau’r Indiad corn (Wagtail), ni fu i’r un ohonynt egino, 5 yn unig o’r ffa dringo a eginodd a tydwi ddim yn obeithiol iawn o lwyddiant y moron chwaith. Dwi wedi cysylltu hefo’r cwmni ond heb dderbyn ymateb eto. Mae popeth arall yn ffynnu.
Yr wythnos hon dwi wedi tocio’r perthi bocs ac am y tro cyntaf erioed maent yr un uchder, efallai ddim cweit yn wastad, mae hynny’n gofyn gormod! Gorfod i mi docio tua chwe modfedd oddi ar hanner y berth, penderfyniad anodd a olygodd ddau ddiwrnod o bendroni. Dwi eto i fynd i’r afael â’r berth Yw.
Golyga’r tywydd sych ein bod yn dyfrio’r ardd yn ddyddiol, diolch byth am y casgenni dŵr. Er hynny mae‘n rhaid i mi gyfaddef defnyddio’r taenellwr dŵr yn wythnosol er mwyn trochi’r y llysiau.

Bûm braidd yn esgeulus ac efallai yn or-hyderus, siomedig felly oedd gweld nifer o ddeiliach y llwyni rhosod yn cyrlio ac yn rhyw bwyntio i waered, arwydd sicr bod Llibryf (Blennocampa phyllocolpa) wrth ei waith. Y cam cyntaf oedd cael gwared o’r dail hynny a oedd wedi cyrlio a’u taflu i berfil yr ‘hotbin’ ac yna chwistrellu’r llwyni hefo cymysgfa o ddŵr, sebon golchi llestri ac olew Neem. Hyd yn hyn mae o i weld yn gweithio.

Oherwydd y tywydd sych mae’r helfa blygeiniol wedi mynd hefo’r gwynt ac fel y gwelwch mae’r malwod a’r gwlithod wedi achub ar eu cyfle. Yn ôl i’r tŵr â Seithenyn felly a gwae unrhyw greadur ddaw yn agos at yr hostas o hyn ymlaen!

Wedi troi’r mudyn am y tro cyntaf eleni a hynny yn hollol ddi-drafferth, dim drewdod a dim llysnafedd. Hwre!