Mae wedi cymryd amser i mi fedru adnabod chwyn ac hyd yn oed heddiw ‘rôl blynyddoedd o arddio dwi’n dal i ddwad ar draws rhai sydd ddim yn gyfarwydd i mi.  Diffiniad chwynnyn gan rhyw athrylith o foi  ydi planhigyn sy’n tyfu yn y lle anghywir.   Tydw i ddim o reidrwydd yn cadw yn dynn i’r ddamcaniaeth hon, i mi chwynnyn yw planhigyn nad ydw i  isho ar gyfyl yr ardd. Yn gyffredinol mae chwyn yn rhannu i ddau fath, rhai unflwydd a rhai lluosflwydd. 

Diben pob planhigyn mewn gwirionedd yw lluosi ac epilio ac mae chwyn yn giambliars ar  hynny.  Fyddwn i ddim yn argymell defnyddio chwynladdwr oni bai bod gennych broblem enfawr neu’n dechrau gardd am y tro cyntaf.  Y dull gorau o waredu chwyn yw chwynnu cyson drwy hofio a pan di hynny ddim yn gweithio, hefo llaw.  Dwi hefyd wedi rhoi’r gorau i balu gan fod y weithred hon yn gallu codi’r hadau sydd wedi eu claddu yn y pridd i’r wyneb a thrwy hynny eu bywiogi.  Felly byddaf yn rhoi haen drwchus o domwellt tros yr ardd. 

Mae’n bwysig nabod chwyn yn eu cyflwr anaeddfed er mwyn cael gwared ohonynt cyn iddynt gael cyfle i hadu.  Mae’r chwyn unflwydd yn tyfu yn gyflym ac yn hadu’n ddirifedi.  Dyma ‘chydig mwy o wybodaeth am y chwyn unflwydd cyffredin.

Berwr Chwerw Blewog  Cardamine hirsuta (Hairy Bittercress)

Dyma un o’r chwyn mwyaf cyffredin.  Mae’n tyfu oddeutu 3-5cm o daldra ac mae iddo flodau bach gwyn.  Oherwydd ei ffurf a’i fychander mae’r planhigyn hwn yn cuddiad tu ôl i blanhigion eraill ac oherwydd y nodwedd hon a’r gallu i hadu ymhen 4 wythnos o egino, tasgu’r had hyd at 3 medr a mwy ar ddiwrnod gwyntog, mae hwn yn blanhigyn sydd yn rhaid ei wylio hefo llygaid barcud a’i chwynnu pob gafael.

Brechlys, Stellaria media (Chickweed)

Tyfiant oddeutu 5-7cm o daldra ac mae’n gallu lledaenu yn gyflym.  Mae iddo wreiddiau ymestynol sy’n lledaenu’n gyflym. Mae i’r planhigyn hwn flodau bach gwyn serennog sy’n troi i had yn sydyn.  Gall pob planhigyn gynhyrchu rhwng 2,500 a 15,000 o hadau yr un.  Fel bo hyn ddim yn ddigon mae’n egino yn rhwydd  mewn tir llaith ac mae’n cyrraedd aeddfedrwydd o fewn 5 i 7 wythnos ar ôl i’r had egino.  Mae’n blanhigyn gwydn a gall oroesi’r trwy’r Gaeaf.

Creulys  Senecio vulgaris (Groundsel)

Chwynnyn un flwydd yw’r Creulys.  Yn ddibynnol ar y math o bridd a’r lleoliad mae tyfiant hwn yn amrywio o 5cm i 22cm o daldra. Mae iddo flodau melyn bychain ac mae’r hadau yn debyg iawn i rai dant y llew.  Rhaid bod yn wyliadwrus iawn hefo hwn gan ei fod yn gallu aeddfedu o fewn 4 i 6 wythnos o egino.

Helyglys  Chamerion angustifolium (Willowherb, or fireweed)

Dyma blanhigyn toreithiog, yn y gwyllt mae rhesi o’r blodau pinc yn ddeiniadol iawn.  Yn yr ardd gall gymryd drosodd.  O’i adael fe all fygu a chyfyngu tyfiant planhigion eraill.  Mae’n epilio nid yn unig drwy had ond hefyd drwy ddefnyddio gwreiddiau ymestynol.

Llaethysgallen Arw   Sonchus asper  (Prickly Milk (Sow) Thistle)

Dyma chwynnyn arall sydd angen bod yn wyliadwrus ohono, mae’n gallu tyfu i fyny at 90cm o daldra ac mae’r blodau bach melyn yn gallu troi i hadau o fewn 4 wythnos iddynt egino. Mae’n bwysig dal rhain yn gynnar achos mae iddynt wreiddiau cryfion ac mae’n anodd iawn cael gwared ohonynt munud maent wedi cymryd gafael.

Pwrs y Bugail  Capsella bursa-pastoris (Shepherds purse)

Mae gan Bwrs y Bugail glwstwr o ddail danteddog, nid anhebyg i ddail dant y llew.  Gall y goes dyfu i daldra o hyd at 10cm ac mae iddi flodyn bach gwyn.  Mae’n  troi i had o fewn 6-8 wythnos ar ôl iddo egino ac o’i adael yn ei le mae’r gwreiddiau yn cryfhau a thyfnhau ac yn ei wneud yn anodd i’w waredu. Felly mae’n well  chwynnu pan mae’r planhigion yn ifanc.

Suran y coed Oxalis (Woodsorrel)

Chwynnyn slei ar y dian ydi hwn, rhyw 5cm o uchder ac mae’n hadu’n gyflym heb i chi sylwi arno a chyn i chi droi mae o’n carpedu’n glud.

Troed yr Wydd Chenopodium Album (Fat Hen)

Mae hwn yn hoff o dir maethlon ac felly yn ffafrio’r llain llysiau.  Yn ei ffurf anaeddfed mae’n edrych yn ddigon diniwed ond o’i adael gall dyfu yn blanhigyn cryf yn gyflym iawn gan gyrraedd taldra o 27cm;  o’i adael i hadu ac egino mae’n anodd iawn ei waredu.  Y dull gorau unwaith eto yw hofio cyson.  Gair o rybudd gall hadau oroesi yn y pridd heb eu ‘styrbio am oddeutu 20 mlynedd.

Aur yr Ŷd Sinapis arvensis (Charlock)

Dyma chwynnyn cyffredin arall sy’n hadu of fewn 8-10 wythnos ar ôl egino.  Aelod o deulu’r bresych, gall dyfu hyd at 60cm o daldra.  Hwn yn hawdd i’w hofio neu ei godi gyda llaw.  Y tric wrth gwrs ydi cael gwared ohono cyn iddo hadu.

Mwg-y-ddaear Cyffredin   Fumaria officinalis (Common Fumitory)

mwgyddear

Tydi’r planhigyn hwn ddim yn hoff o dir sy’n cael ei drin yn aml ac fel rheol mae o yn tyfu ar yr ymylon.  Yn ddibynnol eto ar y lleoliad gall dyfu i daldra o rhwng 10 a 40cm.  Mae iddo flodau pinc deiniadol ac i ddeud y gwir tydi’r hwn ddim yn chwynnyn trafferthus.

Rhwyddlyn y Maes Veronica persica (Speedwell)

Planhigyn sy’n tyfu’n isel yw hwn ac iddo flodau bach glas.  Mae’n dwad i had o fewn 4-6 wythnos.  Dwi’n meddwl ei fod yn blanhigyn hyfryd ac mae gen i glwmp yn ymyl y giat.  Er hynny chwyn ydi chwyn a ni fyddwn yn gadael iddo dyfu yn glympiau mawr a lluosog.

 

ENGLISH