Oes pwrpas call i falwen?
Maent ym mhobman yn yr ardd ar hyn o bryd, dwi bron yn siŵr fod y rhai acw wedi bod yn ddringwyr proffesiynol mewn oes arall; mi ddesh ar draws un, yn ystod yr helfa blygeiniol, yn ceisio ei gora i gyrraedd copa coeden afal ac un arall ar rhyw berwyl od iawn ar do y sied.
Dwi’n trio cadw at egwyddorion garddio organig ond iesgob annwl mae’n demtasiwn weithiau i saethu cawod o’r pelenni glas atynt. Hyd yn hyn dwi wedi medru atal fy hun; un o’r prif resymau dros hynny yw dyfodiad ymwelydd newydd i’r ardd, sef Dan y draenog, cofiwch mae’n eitha posib mai Diane y draenog ydi hi! Maent wedi mynd yn greaduriaid eitha prin a mae Dan/Diane wedi derbyn croeso mawr gan breswylwyr Hafan yr Hud, (y rhai pedair coes yn ogystal â’r rhai dwy goes). Mae eisiau cynnal rhyw gydbwysedd felly rhwng sicrhau bod digon o ddanteithion blasus ar gael i’r draenog â gwarchod dail Hostas, bresych, letys ayb rhag ymosodiadau rheibus malwod a gwlithod.
Tydi plisgyn wyau yn rhwystro dim ar falwod Sir Fôn tra mae nematodau wedi cael rhyw drefn ar y gwlithod ond wrth gwrs bydd rhaid eu trin eto o fewn chwe wythnos. Yn wahanol iawn i ffrind i mi sgen i ddim stumog at ladd malwod yn feunyddiol, bydd hi’n derbyn slops cwrw gan dafarn leol ac yna yn ei ddefnyddio i ddifa malwod. Yn ei thyb hi tydi’r malwod yn dioddef dim gan eu bod wedi meddwi cyn boddi.
Fodd bynnag fy null i o ddatrys y broblem ydi’r helfa falwod blygeiniol, (gyda llaw, mi ddowch ar draws llawer mwy o falwod am 5 o’r gloch y bore nag a wnewch am 6.30 y bore), mi fyddai yn eu hel ac yn eu taflu dros y clawdd i’r cae drws nesa neu os oes gen i fymryn mwy o amser byddaf yn eu casglu mewn bwced, eu rhoi yn y car a mynd am rhyw filltir o drip i lawr y lôn cyn eu dadlwytho mewn man diogel.
Tydio fawr o gysur clywed fod gan falwod fodd o ffendio eu ffordd adra, dwi ddim yn edrych ymlaen at gael byddin o falwod yn dringo dros gloddiau a’u bryd ar ail-feddiannu tir.
Credwch neu beidio, ymddengys bod pwrpas i falwod,yn ogystal â fy ysgogi i godi yn gynnar a thrwy hynny rhoi cyfle i mi weld diwrnod newydd yn ei holl ogoniant maent yn giamstars ar fwyta llysdyfiant pydredig ac yn cyfrannu tuag at ecosystem yr ardd. Cofiwch hefyd sut mae’r Ffrancwyr wedi elwa ohonynt!
Hyfryd iawn 🙂
HoffiHoffi
Diolch Gwenllian
HoffiHoffi
I enjoy reading a post that can make people think.
Also, thanks for allowing for me to comment!
HoffiHoffi
Diolch Myo, falch eich bod wedi mwynhau.
HoffiHoffi
Cael mwynhad mawr wrth ddarllen dy stori ,maen rhaid cyfaddef mae yn dod a gwen ac ambell i giggle.Dal ati, hwyrach fe roi dro arall ar y mamalade os y bydd cyfle.
HoffiHoffi