Fel rheol mi fydda i’n prynu’r rhan fwyaf o fy hadau gan y Real Seeds Company, cwmni sydd wedi ei leoli yn Ne Cymru. Er na fu iddynt fy siomi erioed penderfynais eleni daflu’r rhwyd yn nes at adra a rhoi tro ar hadau Medwyn Williams, Llanfairpwll. Symbylwyd y penderfyniad gan y cyfle i dyfu tomato newydd o’r enw ‘Y Ddraig Goch’.
Derbyniais yr hadau mewn da bryd, dim cweit gyda throad y post ond bron iawn. Dechreuais ar yr hadu ddiwedd mis Chwefror ac un peth sydd wedi fy nharo yw cyn lleied o hadau sydd mewn pecyn. I fod yn deg mae’r nifer o hadau mewn pecyn wedi ei nodi ar yr wefan, ond o agor y pecyn a’u rhoi yn fy llaw , toedd dim cymhariaeth â’r niferoedd a geir mewn pecynnau cyffelyb. Ansawdd yn hytrach na nifer efallai. Cawn weld, byddaf yn siŵr o roi gwybod i chi fel mae’r tymor yn mynd rhagddo.