Awgrymais mewn post diweddar bod dyfodiad yr “Hotbin” wedi chwyldroi’r broses o greu compost yn Hafan yr Hud. Dwi’n dechra simsanu braidd ac yn ei gyflwr presennol dwi’n amheus ohono.
Rhoddir holl wastraff y gegin i’w ofal a phan mae ar ei orau nid oes braidd dim arogl, dim pryfetach na chonfilod ac o fewn 8 wythnos mae’r gwastraff wedi ei drawsnewid i gompost cyfoethog. Fel mae’r enw yn awgrymu system gompostio boeth sydd yma ac mae’n gwbl ddibynnol ar doman aerobig, i sicrhau hynny mae’n rhaid wrth fwydo cyson a digonedd o ocsigen. Er hwylustod mae’r ‘Hotbin’ wedi ei leoli nepell o’r drws cefn.
Am reswm nad oedd yn amlwg i ni ar y pryd roedd amryw o bryfetach bychain wedi
meddiannu’r gegin, i mi gweddillion yr afalau stôr a lechai yng ngwaelod y bowlen ffrwythau oedd ar fai. Yn rhyfedd iawn fe bery’r broblem ymhell r’ôl i ni waredu’r bowlen o’r ‘falau, roedd gwydrau o win yn trawsnewid yn byllau nofio pryfaid ac fe ddatblygodd lladd pryfaid i fod yn ddifyrrwch acw gyda pawb yn y tŷ yn ceisio’r sgôr uchaf. Roedd yn rhaid rhoi pen ar y mwdl, roeddwn yn magu blas at yr helfa.
Defnyddiais weddillion moron i wneud cawl, o ganlyniad roedd
mynydd o groen a darnau o foron pydredig yn barod am yr “Hotbin”. Gyda baich y dyn diocaf agorais gaead y bun, mewn eiliad roeddwn wedi fy nallu, claddwyd fy mhen mewn mwgwd tew o bryfetach. Clywais dinc y geiniog yn disgyn roedd yr annwyl “Hotbin” wedi troi arnaf ac yn bwysicach wedi troi yn anaerobig.
‘Toedd dim amser i’w golli, roedd yn rhaid ei wagio, ei ll’nau a’i ail osod, hynny yw, rhoi haen dew o’r llysnafedd i mewn ac yna ychwanegu haen deneuach o risgl coed pydredig .. ond sut i gyflawni’r fath dasg? ‘Toedd gen i ddim awydd i’w wagio raw wrth raw i mewn i res barod o ferfâu. O rhywle daeth mellten o ysbrydoliaeth a chofiais am y droli gref a oedd wedi ei storio yn barhaol yng nghornel dywyllaf y sied. Gyda cryn ymdrech a dyfeisgarwch llwyddais i osod y bun ar y droli. Mater arall oedd symud y droli. Ta waeth rôl cyfnod o ymladd yn erbyn y llif dechreuais godi stêm ac i ffwrdd â ni a dyna lle roeddwn yn ddistaw longyfarch fy hun pan mewn un tro ffwdan ar ôl un arall aeth y byd wyneb i waered. Roedd y awyr wedi disodli’r ‘Hotbin’, roedd y ffos yn lle ddyla’r awyr fod ac yn sicr nid oedd cynnwys yr ‘Hotbin yn lle dylan nhw fod …… ac mi roeddwn i’n boddi mewn llysnafedd! Ych a fi!!!